Enghraifft o'r canlynol | group of sculptures |
---|---|
Math | cerfddelw, cerfwedd |
Deunydd | copper alloy |
Lleoliad | Amgueddfa Ethnolegol Berlin, yr Amgueddfa Brydeinig, Amgueddfa Genedlaethol Nigeria |
Rhanbarth | Benin City |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Casgliad o gerfluniau efydd a phres o ddiwylliant y bobl Edo yw Efyddau Benin a fu'n addurno'r palas brenhinol yn Nheyrnas Benin yng Ngorllewin Affrica o'r 16g i'r 19g. Maent yn cynnwys miloedd o blaciau addurnedig, pennau, ffigurau o bobl ac anifeiliaid, teyrndlysau, ac addurniadau personol.
Cynhyrchwyd Efyddau Byddin gan gerflunwyr metel o'r urddau crefft a oedd yn gweithio i lys yr Oba (brenin) yn Ninas Benin, a leolir bellach yn Nigeria. Derbyniwyd nawdd brenhinol hefyd gan urddau a oedd yn arbenigo mewn defnyddiau eraill, megis ifori, lledr, cwrel, a phren, ac weithiau defnyddir y term Efyddau Benin i grybwyll pethau a gynhyrchwyd gan y rheiny.[1] Comisiynwyd nifer o'r celfi ar gyfer allorau teuluol yr hen frenhinoedd a mam freninesau, ac mae'r placiau yn cynnwys tystiolaeth o freninllinau ac hanes cymdeithasol y deyrnas.
Daeth Efyddau Benin dan feddiant yr Amgueddfa Brydeinig ac amgueddfeydd eraill ar draws Ewrop yn sgil ysbeilio Dinas Benin gan luoedd yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1897. Cedwir rhyw 900 o gelfi a gipiwyd o Benin o hyd yng nghasgliad yr Amgueddfa Brydeinig.[1] Mae Ewuare II, Oba Benin ers 2016, wedi galw ar amgueddfeydd a chasglwyr preifat i ddychwelyd Efyddau Benin i Nigeria. Yn 2023, cyhoeddodd Muhammadu Buhari, Arlywydd Nigeria, ddatganiad i gydnabod yr Oba yn berchennog cyfreithlon ar Efyddau Benin, ac yn mynnu y dylai unrhyw o'r trysorau a ddychwelir i Nigeria gael ei trosglwyddo i feddiant yr Oba.[2]